Amdan y Comisiynydd

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru’n llais annibynnol ac yn bencampwr dros bobl hŷn ar draws Cymru, gan sefyll i fyny drostynt a siarad ar eu rhan. Mae’n gweithio i sicrhau bod y rhai sy’n agored i niwed ac mewn perygl yn aros yn ddiogel gan sicrhau bod gan bob person hŷn lais sy’n cael ei glywed, bod ganddynt ddewis a rheolaeth, nad ydynt yn teimlo’n ynysig na bod pobl yn gwahaniaethu yn eu herbyn a’u bod yn derbyn y cymorth a’r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae gwaith y Comisiynydd wedi’i sbarduno gan yr hyn y mae pobl hŷn yn ei ddweud sydd bwysicaf iddynt ac mae eu lleisiau wrth galon popeth y mae’n ei wneud. Mae’r Comisiynydd yn gweithio i wneud Cymru’n wlad dda i fynd yn hŷn ynddi – nid dim ond i rai ond i bawb.

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

·        Yn hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

·        Yn herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru.

·        Yn annog arferion gorau wrth drin pobl hŷn yng Nghymru.

·        Yn adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

 

 

 

 

 

 


Ymchwiliad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Dlodi yng Nghymru: Cymunedau’n Gyntaf – gwersi a ddysgwyd

1.   Fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru rwyf yn croesawu’r cyfle i gyflwyno sylwadau ar yr Ymchwiliad ‘Cymunedau’n Gyntaf – gwersi a ddysgwyd’[1]. Mae’n adeiladu ar ymatebion blaenorol i’r Ymchwiliad Tlodi yng Nghymru gan y Pedwerydd Cynulliad. Erys camsyniadau o hyd nad yw’r caledi a'r diwygiadau lles a welodd Cymru yn y blynyddoedd diwethaf wedi effeithio ar ei phobl hŷn. Mae’r realiti’n dra gwahanol: ystyrir bod tua 112,500 o bobl hŷn yn byw mewn tlodi yng Nghymru a 50,000 yn byw mewn tlodi difrifol[2][3]. Ystyrir bod tua 140,000 o aelwydydd hŷn yn byw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru[4]. Er bod tlodi’n gyffredinol ymhlith pobl hŷn wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf, mae ymchwil yn 2016 yn awgrymu bod cynnydd wedi bod yn nifer y bobl hŷn sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru, hyd at 17%[5].

2.   Ar y cyfan mae diffyg tystiolaeth ac ymchwil i sut y mae tlodi’n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru ac mewn mannau eraill, a sut y mae gwahanol achosion a chyfuniad o ffactorau’n rhoi pobl hŷn mewn tlodi. Yn y grŵp oed hŷn, mae angen mwy o ymchwil arnom i ddeall sut y mae tlodi’n effeithio ar wahanol grwpiau o bobl hŷn: er enghraifft, mae merched hŷn yn fwy tebygol o fod mewn tlodi na dynion hŷn ac mae pobl hŷn o grwpiau BME hefyd yn fwy tebygol o fyw mewn tlodi[6].

3.   Mae prinder cyffelyb o dystiolaeth o sut y mae Cymunedau’n Gyntaf wedi helpu i wella bywydau pobl hŷn ar draws Cymru ers ei gyflwyno yn 2001. Mae’r gwerthusiad o’r rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn cyfeirio at ‘Ychwanegu at Fywyd’ °, a sut wnaeth y rhaglen helpu i hyrwyddo a chyflwyno archwiliadau iechyd i bobl 50+ oed yn ardaloedd clwstwr Cymunedau'n Gyntaf. Fodd bynnag, ychydig iawn o fanylion sydd gennym am sut y llwyddodd y rhaglen i ymgysylltu â'r garfan hŷn, sut yr ystyriodd yr heriau a’r cyfoeth o gyfleoedd sy’n dod law yn llaw â phoblogaeth sy’n heneiddio a sut y darparodd y rhaglen ymyriadau i godi pobl hŷn allan o dlodi, fel gyda chynlluniau megis Dechrau’n Deg i blant a phobl ifanc.[7]

4.   O’r dystiolaeth sydd ar gael, mae effaith Cymunedau’n Gyntaf ar godi pobl hŷn allan o dlodi, a gwella ansawdd eu bywydau, yn amrywio ar draws Cymru. Mewn ardaloedd trefol, gwledig ac arfordirol, mae pobl hŷn yn byw mewn tlodi ar draws Cymru gan gynnwys yn y 52 o ardaloedd Clwstwr Cymunedau'n Gyntaf, a hefyd yn yr Awdurdodau Lleol heb unrhyw Glystyrau[8]. Gyda’r rhaglen yn dod i ben erbyn Mawrth 2018, fy mlaenoriaeth i yw sicrhau y bydd cynlluniau, ymyriadau, polisïau a dulliau o fynd i'r afael â thlodi yn y dyfodol yn helpu i leihau nifer y bobl hŷn sy'n byw mewn tlodi ac yn gwella iechyd, lles a gwydnwch ariannol pobl hŷn ar draws Cymru.

5.   Mae peth tystiolaeth i awgrymu y bydd dod â’r rhaglen Cymunedau’n Gyntaf i ben yn cael effaith andwyol, er enghraifft ar bobl hŷn sy’n byw gyda dementia yn Sir y Fflint, ar yr asesiadau iechyd ‘Ychwanegu at Fywyd’ am ddim sydd ar gael gan Age Cymru yng Nghaerdydd, a’r gwaith gan y WCVA i leihau ynysu ymhlith pobl hŷn[9][10][11]. Byddai’n drueni gwneud i ffwrdd â'r gweithgareddau a'r ymyriadau hyn i bobl hŷn a dylid ystyried modelau darparu eraill, er enghraifft trosglwyddo asedau i'r gymuned a throsglwyddo darpariaeth i fentrau cymdeithasol ar ôl i Gymunedau'n Gyntaf ddod i ben. Fodd bynnag, mae diffyg tystiolaeth a'r ffaith na sonnir am bobl hŷn yn y prif ddogfennau a’r strategaethau ategol, er enghraifft yng Nghynllun Gweithredu Tlodi Tanwydd 2012-16 Llywodraeth Cymru[12], yn awgrymu bod angen gwneud mwy o waith ac ennill dealltwriaeth llawer craffach i fynd i’r afael ag achosion penodol tlodi ymhlith pobl hŷn mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf ac mewn mannau eraill.

Cynhwysiant Ariannol a’r Nifer sy’n Manteisio ar eu Hawliau Ariannol

6.   Mae fy ffocws ar fynd i’r afael â thlodi ymhlith pobl hŷn yn cynnwys cynyddu’r nifer sy'n manteisio ar eu hawliau ariannol a chynyddu cyfleoedd gwaith i bobl hŷn. Mae annog pobl hŷn i fanteisio ar eu hawliau ariannol yn flaenoriaeth gennyf a gallai sicrhau bod pobl hŷn yn derbyn £50/60 yn ychwanegol bob wythnos wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’w bywydau. Mae astudiaethau’n awgrymu mai cynyddu incwm pensiynwyr yw'r llwybr mwyaf effeithiol allan o dlodi o hyd[13]. Ystyrir bod tua £168m o arian Credyd Pensiwn yn cael ei ddychwelyd i’r Trysorlys o Gymru bob blwyddyn[14]: arian yw hwn y dylai pobl hŷn fod yn ei hawlio i’w helpu i dalu biliau ynni, talu am eu costau byw beunyddiol ac er mwyn gallu prynu nwyddau a defnyddio gwasanaethau ac amwynderau pwysig.

7.   Mae Strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Pobl Hŷn 2013-23[15] yn cyfeirio at Gymunedau’n Gyntaf fel ffordd o wella cynhwysiant ariannol pobl hŷn a'u helpu i gael gafael ar wasanaethau a chyngor ariannol priodol. Mae’r nifer isel o hyd sy'n manteisio ar eu hawliau ariannol yn awgrymu nad yw'r rhaglen wedi cael yr effaith oedd mewn golwg. Mae angen gwneud mwy o waith i sicrhau bod pobl hŷn yn ymwybodol o’u hawliau, yn gwybod sut i ymgeisio gyda chymorth a chefnogaeth bwrpasol a gyda’r hyder i hawlio heb ofni cael eu stereoteipio, h.y. cael eu gweld fel pobl sy’n ‘godro’ y system neu’n byw ar y wlad.

8.   Er enghraifft, rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â phartneriaid allweddol, e.e. Awdurdodau Lleol, gwasanaethau cynghori a gwybodaeth, i gyflwyno a thargedu ymgyrch codi ymwybyddiaeth o hawliau ariannol, fel y cynllun llwyddiannus ‘Make the Call’ yng Ngogledd Iwerddon[16]. Mae sicrhau bod pobl hŷn yn gwybod beth yw eu hawliau a rhoi’r cymorth iddynt hawlio eu Credyd Pensiwn, eu Lwfans Presenoldeb a'u Lwfans Gofalwr etc, yn hollbwysig i gael mwy o bobl i hawlio a gallai wneud gwahaniaeth gwirioneddol mewn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf ymhlith oedolion o bob oed.

Cyfleoedd Dysgu a Chyflogaeth

9.   Mae gwella cyfleoedd dysgu a chyflogaeth i bobl hŷn hefyd yn llwybr pwysig arall allan o dlodi. Nid yw’r model ymddeol traddodiadol mwyach yn berthnasol ac mae nifer gynyddol o bobl hŷn eisiau, neu’n wir mae angen iddynt weithio am hirach, er mwyn cynnal eu hunain ac eraill ac er mwyn sicrhau eu hincwm wrth fynd yn hŷn. Fodd bynnag mae pobl hŷn yn wynebu nifer o rwystrau i aros yn, neu ddychwelyd i'r gweithle, gan gynnwys gwahaniaethu ar sail oed, patrymau gweithio anhyblyg nad ydynt yn ystyried, e.e. cyfrifoldebau gofalu a sgiliau sydd wedi dyddio neu sydd bellach yn amherthnasol.

10.               Mae tua 205,000 o bobl rhwng 50 oed ac oed Pensiwn y Wladwriaeth nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) yng Nghymru. Mae gan y bobl hyn botensial i fod yn weithlu mawr sydd angen y sgiliau a’r hyfforddiant iawn ynghyd â'r hyder i wella eu rhagolygon gwaith, ond sy'n aml yn cael trafferth cael gafael ar gymorth a chefnogaeth oherwydd y ffocws ar bobl iau. Fel y pwysleisiais yn adroddiad 2015 y Cynlluniad Cenedlaethol ar yr Ymchwiliad i Gyfleoedd Cyflogaeth ar gyfer Pobl Dros 50 Oed, mae pobl NEET hŷn yn grŵp sy’n cael eu tanbrisio, eu tanwerthfawrogi ac, yn aml, yn ôl-ystyriaeth gan gynlluniau a rhaglenni sy'n targedu pobl i ddychwelyd i'r gweithle[17].

11.               Mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf, mae sicrhau bod gan bobl hŷn y sgiliau iawn a'n bod yn eu cysylltu i’r cyfleoedd cyflogaeth perthnasol yn eu hardal leol drwy, er enghraifft, ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus a chymunedol, yn hollbwysig. Mae cryfhau’r gweithlu gofal cymdeithasol yn dangos yr heriau sy’n wynebu rhai pobl hŷn wrth chwilio am waith. Mae cyllid i bobl 25+ oed wedi cael ei dynnu'n ôl gan olygu nad yw pobl hŷn yn y gweithlu'n derbyn cyfleoedd cyfartal o ran hyfforddiant neu gyflogaeth[18]. Byddai llawer o bobl hŷn yn hoffi manteisio ar waith gofal cymdeithasol oherwydd gall fod yn brofiad gwerth chweil ac mae darparu gofal person-ganolog yn gallu rhoi teimlad o hunan-gyflawniad a hwb i’r hyder. Fodd bynnag mae diffyg sgiliau perthnasol, bylchau mewn trafnidiaeth a’r pwyslais ar ddisgwyl i bobl hŷn dalu am bethau eu hunain yn golygu bod ceiswyr gwaith hŷn yn aml yn colli allan ar gyfleoedd gwaith sydd taer eu hangen arnynt ac nad yw pobl hŷn eraill yn derbyn gofal a chymorth o ganlyniad.

12.               Drwy Gymunedau’n Gyntaf mae rhaglenni fel Cymunedau Digidol Cymru[19] wedi bod o gymorth i wella sgiliau digidol pobl hŷn a rhoi sylw i gynhwysiant digidol drwy ddarparu hyfforddiant am ddim. Fodd bynnag mae angen dealltwriaeth well i fesur a yw’r hyfforddiant a’r gwersi digidol wedi helpu gweithwyr / ceiswyr gwaith hŷn i ddod o hyd i waith ac a yw hynny, yn ei dro, wedi gwella eu gwydnwch ariannol. Mae peth tystiolaeth ansoddol yn awgrymu nad yw ceiswyr gwaith hŷn wedi elwa o gael gwersi digidol[20].

13.               Mae Cymunedau am Waith wedi gweithio gyda’r rhaglen Cymunedau’n Gyntaf i roi cymorth i bobl ddiwaith dros 25 oed i ddychwelyd i weithio, a hefyd i helpu pobl NEET iau[21]. Nod y rhaglen yw helpu’r rhai sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad gyflogaeth ac mae cynnwys pobl dros 54 oed sy’n economaidd anweithgar i’w groesawu.  Er bod cynnwys a rhoi blaenoriaeth i bobl hŷn sy’n economaidd anweithgar, ac yn byw gyda chyflyrau iechyd sy’n effeithio ar eu gallu i weithio, i’w groesawu, unwaith eto prin yw’r dystiolaeth hyd yma o sut y llwyddodd Cymunedau am Waith i wella rhagolygon gwaith ceiswyr gwaith hŷn mewn ardaloedd Cymunedau'n Gyntaf. Mae’r gwerthusiad Cymunedau am Waith yn cyfeirio at ganran y bobl rhwng 50-64 oed nad oeddent mewn gwaith yn 2014 (36%), a hefyd y rhwystrau penodol y mae ceiswyr gwaith hŷn yn eu hwynebu, er enghraifft sgiliau isel, salwch a gwahaniaethu ar sail oed, ond nid yw’n ymhelaethu ar sut y mae’r rhaglen wedi helpu i wella’r sefyllfa hyd yma[22].

14.               Gan edrych ymlaen, mae’n hollbwysig bod ymrwymiadau a chynlluniau Llywodraeth Cymru, fel y rhaglen gyflogadwyedd a phrentisiaethau pob oed, yn ymgysylltu’n llawn â phobl hŷn mewn ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf a mannau eraill. Mae angen cymorth a help wedi’i dargedu ar bobl hŷn yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig i’w codi allan o dlodi, ac i'r bobl hŷn hynny sydd eisiau ac sydd angen iddynt weithio, rhaid cael cynlluniau ac ymyriadau cyflogaeth sy’n wirioneddol i bob oed.

15.               Gallai dull o’r fath, ynghyd â chynnydd yn y nifer sy'n manteisio ar eu hawliau ariannol, helpu i symud pobl hŷn i ffwrdd o'r cylch dieflig o dlodi at fodel mwy rhinweddol, h.y., cynyddu eu hincwm drwy hawlio eu harian a gweithio, gallu ymdopi’n well â chostau byw a biliau ynni, mwy o hyblygrwydd i brynu bwydydd iachach a manteisio ar gyfleoedd hamdden a diwylliannol, gwydnwch ariannol gwell i ddelio gyda newidiadau wrth fynd yn hŷn ac iechyd a lles corfforol a meddyliol gwell fel effaith gronnus. Mae’r dull ataliol hwn yn rhoi mwy o bwyslais ar ganlyniadau ac yn cyd-fynd â’r rhaglen Heneiddio'n Dda yng Nghymru a hefyd â’r amcanion lles cenedlaethol yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).

Heneiddio’n Dda yng Nghymru

16.               Rwyf yn falch o redeg a chroesawu Heneiddio’n Dda yng Nghymru sef y rhaglen genedlaethol mewn partneriaeth i wella iechyd a lles pobl 50+ oed yng Nghymru[23]. Mudiad cymdeithasol yw Heneiddio’n Dda sy’n gweithio gyda phartneriaid strategol, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i helpu i wneud Cymru’n wlad dda i fynd yn hŷn ynddi i bawb. Drwy fabwysiadu dull seiliedig ar asedau, h.y. buddsoddi mewn pobl hŷn, mae Heneiddio’n Dda’n helpu i wella iechyd, lles ac annibyniaeth pobl hŷn, yn gwella canlyniadau i’r unigolyn a thrwy hynny yn lleihau’r angen am wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drud.

17.               Mae gan Heneiddio’n Dda bum maes blaenoriaeth i helpu i wneud Cymru’n wlad dda i dyfu’n hŷn ynddi: datblygu cymunedau cefnogol a chyfeillgar i oed a dementia, rhoi sylw i atal codymau, unigrwydd a bod yn ynysig, a gwella cyfleoedd dysgu a gwaith. Mae pob Awdurdod Lleol yng Nghymru wedi cyhoeddi cynllun Heneiddio’n Dda’n manylu ar sut y byddant yn rhoi sylw i’r pum maes blaenoriaeth hwn gyda’u partneriaid. Yng nghyd-destun gweithredu’r nodau a’r amcanion hyn ar y ddaear, ac ymgysylltu â phobl hŷn drwy’r cynlluniau lleol, mae cau’r rhaglen Cymunedau’n Gyntaf yn bryder. Er enghraifft:

{0

-      Ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ynys Môn, mae cyfleoedd dysgu i bobl hŷn yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn cael ei gydgysylltu â darpariaeth y rhaglen Cymunedau'n Gyntaf[24][25];

-      Mae cynnal clybiau gwaith i roi cyngor a chymorth i bobl hŷn ar ddod o hyd i waith yn cael ei gydgysylltu â Chymunedau’n Gyntaf ym Mlaenau Gwent[26];

-      Mae datblygu a chyflwyno’r hyfforddiant Ffrindiau Dementia a Phencampwyr Dementia’n cael ei gynllunio ar y cyd â thimau Cymunedau'n Gyntaf yng Nghaerffili[27];

-      Yng Nghwm Taf, mae Clystyrau Cymunedau’n Gyntaf wedi cynnig rhaglenni ymarfer corff i bobl hŷn sy’n helpu i hyrwyddo ffyrdd iach ac egnïol o fyw a lleihau’r perygl o gael codwm drwy fod yn gorfforol egnïol[28];

-      Mae cynnal gweithdai a gwersi cynhwysiant digidol wedi cael ei gydgysylltu â gwasanaethau Cymunedau'n Gyntaf yn Sir Gâr[29].

 

Mae’r ffaith bod rhai cynlluniau lleol yn dibynnu ar Gymunedau’n Gyntaf felly’n destun pryder a byddwn yn argymell bod Llywodraeth Cymru’n rhoi pob cymorth a chefnogaeth i Awdurdodau Lleol i liniaru effaith cau’r rhaglen ac yn ymgysylltu ac ymgynghori â darparwyr a buddiolwyr i drafod darpariaeth arall ar gyfer y dyfodol gan sicrhau nad yw’r cynnydd a wnaed gyda'r gwaith Heneiddio'n Dda i wella ansawdd bywydau pobl hŷn yn cael ei golli ar y ddaear.

Casgliad

18.               Y consensws eang yw er bod Cymunedau'n Gyntaf wedi helpu i wella bywydau rhai unigolion, nad yw wedi llwyddo i ddatrys rhai o’r prif achosion sydd wrth wraidd tlodi yng Nghymru. Mae poblogaeth sy’n heneiddio’n cyflwyno heriau penodol yn sicr, ond hefyd cyfoeth o gyfleoedd. Mae pobl hŷn eisoes yn cyfrannu dros £1 biliwn i economi Cymru'n flynyddol ac mae angen dulliau newydd, creadigol ac arloesol o drechu tlodi, o ddatblygu dull seiliedig ar asedau wrth ystyried pobl hŷn ac i ddarparu’r seilwaith a'r gwasanaethau sydd ei angen ar bobl hŷn i gyfrannu mwy fyth ac i wneud y mwyaf o'u sgiliau, eu gwybodaeth a'u profiad.

19.               Mae’r newid hwn mewn darparu gwasanaeth gan annog atebion mwy cymunedol i drechu tlodi’n helpu i rymuso pobl hŷn, yn hyrwyddo cymunedau cyfeillgar i oed ac yn golygu ei bod yn llai tebygol y bydd tlodi’n effeithio ar bobl hŷn ar draws Cymru. Gall cymuned cyfeillgar i oed drechu tlodi drwy, er enghraifft, sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar gyngor a gwybodaeth, hyrwyddo cynhwysiant digidol drwy fanciau a phartneriaid eraill a thrwy weithio gyda busnesau lleol i’w hannog i gyflogi pobl hŷn[30]. Mae tlodi’n effeithio ar bobl hŷn o bob rhan o Gymru ac mae’r ffocws ar ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf wedi golygu nad yw pobl hŷn sy’n byw mewn tlodi mewn rhannau eraill wedi derbyn yr un faint o gymorth a chefnogaeth, er enghraifft pobl hŷn sy’n byw mewn ardaloedd llai difreintiedig ond sy’n ‘gyfoethog mewn asedau ond yn dlawd yn ariannol.

20.               Yng nghyd-destun gwella canlyniadau i bobl hŷn drwy’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), mae fy nghanllawiau i Fyrddau Gwasanaethau Lleol yn cynnwys her i leihau nifer y bobl hŷn sy’n byw mewn tlodi yn yr Awdurdod Lleol[31]. I wneud hyn, bydd angen dull cydweithredol rhwng y partneriaid allweddol gan ystyried anghenion ac amgylchiadau lleol. Bydd y dangosyddion cenedlaethol, yn enwedig ‘Y ganran o bobl sy’n byw mewn cartrefi mewn tlodi incwm’ yn ddefnyddiol i fesur cynnydd ac i fesur a yw’r dulliau newydd yn helpu i leihau tlodi ymhlith pobl hŷn a grwpiau oed eraill[32].

21.               Mae’n amlwg na fydd dull ‘un esgid i ffitio pawb’ o fynd i’r afael â thlodi yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, ac ardaloedd eraill, yn gweithio: efallai na fydd yr atebion i drechu tlodi ymhlith pobl hŷn sy’n byw yn St James, Caerffili, yn briodol i bobl hŷn sy’n byw yng Ngorllewin y Rhyl, er enghraifft. Mae angen mwy o waith i adnabod y prif achosion sydd wrth wraidd tlodi ymhlith pobl hŷn a pha ymyriadau sydd fwyaf effeithiol i godi pobl hŷn allan o dlodi. Mae angen cymorth traws-bortffolio ac adrannol gan Lywodraeth Cymru gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i drechu tlodi ym mhob grŵp oed fel thema drawsbynciol, ac ar draws gwahanol strategaethau.

22.               Gobeithio y bydd y sylwadau hyn yn ddefnyddiol i’r pwyllgor a chofiwch gysylltu â mi os bydd angen mwy o wybodaeth arnoch.

 



[1] http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgConsultationDisplay.aspx?id=260&RPID=1008740594&cp=yes

[2] http://www.ageuk.org.uk/cymru/latest-news/one-in-three-older-people-in-wales-struggling-financially/

[3] http://www.ageuk.org.uk/cymru/policy/age-cymru-policy-publications-1/life-on-a-low-income-1-/

[4]http://www.senedd.cynulliad.cymru/documents/s28592/EEFP%2016%20Comisiynydd%20Pobl%20Hn%20Cymru.pdf

[5] https://www.bevanfoundation.org/news/2016/07/wales-poverty-progress-disappointing-says-bevan-foundation/

[6] http://www.ageuk.org.uk/professional-resources-home/policy/money-matters/poverty-and-inequality/

[7] http://gov.wales/docs/caecd/research/2015/150226-communities-first-process-evaluation-en.pdf

[8] Ceredigion, Sir Fynwy, Powys

[9] http://www.leaderlive.co.uk/news/172590/communities-first-closure-will-see-families-suffer-in-wrexham-and-flintshire.aspx

[10] http://www.ageuk.org.uk/cymru/latest-news/archive/free-add-to-your-life-health-assessments-in-cardiff/

[11] http://www.wcva.org.uk/what-we-do/policy-latest/2016/10/cabinet-secretary-minded-to-phase-out-communities-first?seq.lang=cy-GB

[12] http://www.olderpeoplewales.com/Libraries/Consultation_Responses_2015/September_2014_National_Assembly_for_Wales_Inquiry_into_Poverty_in_Wales_WELSH.sflb.ashx

[13] http://www.futureyears.org.uk/uploads/files/Age%20UK%20on%20poverty%20in%20old%20age.pdf

[14] http://www.ageuk.org.uk/cymru/policy/age-cymru-policy-publications-1/life-on-a-low-income-1-/

[15] http://gov.wales/topics/health/publications/socialcare/strategies/older/?skip=1&lang=cy

[16] https://www.nidirect.gov.uk/campaigns/unclaimed-benefits

[17] http://www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld10305/cr-ld10305-w.pdf

[18] http://www.cgcymru.org.uk/uploads/Council_Members/29.01.15/N._Item_14_Co-investmenmt_Framework.pdf

[19] http://cymunedaudigidol.llyw.cymru/

[20] https://www.bevanfoundation.org//wp-content/uploads/2015/01/BG-CF-North-Report-Final.pdf

[21] http://gov.wales/topics/people-and-communities/communities/communities-for-work/?skip=1&lang=cy

[22] http://gov.wales/docs/caecd/research/2017/170412-evaluation-communities-work-stage-1-cy.pdf

[23] http://www.ageingwellinwales.com/wl/home

[24] https://www.bridgend.gov.uk/media/400744/ref13533-ageing-well-in-bridgend-cym-stp.pdf

[25] https://www.ynysmon.gov.uk/Journals/e/s/g/Strategaeth-Pobl-Hyn-Cym-terfynol.pdf

[26] http://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/preswylwyr/iechyd-lles-a-gofal-cymdeithasol/cael-yr-help-rydych-ei-angen/gwasanaethau-pobl-hyn/strategaeth-ar-gyfer-pobl-hyn/

[27] http://www.caerffili.gov.uk/CaerphillyDocs/Adults-and-older-people/50-_Positve_Action_delivery_plan_Welsh.aspx

[28] http://www.rctcbc.gov.uk/CY/Resident/AdultsandOlderPeople/AdultSocialServicesCareandSupport/Relateddocuments/CwmTafAgeingWellinWalesPlan.pdf

[29] http://www.sirgar.llyw.cymru/media/1736184/cym-74625-Annual-Update-15-16.pdf

[30] http://www.ageuk.org.uk/Documents/EN-GB/For-professionals/Politics-and-government/age-friendly-places/age_friendly_places_guide.pdf?dtrk=true

[31] http://www.olderpeoplewales.com/Libraries/Uploads/PSB_Guidance_w.sflb.ashx

[32] http://gov.wales/docs/desh/publications/160316-national-indicators-to-be-laid-before-nafw-cy.pdf